Mae Taking Flight yn gwmni theatr cynhwysol sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn creu cynyrchiadau proffesiynol gyda pherfformwyr byddar, anabl, dall / â nam ar y golwg, niwroamrywiol a pherfformwyr nad ydynt yn anabl.
Mae ein holl waith yn cynnwys darpariaeth mynediad wedi’i hymgorffori, megis Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau a Disgrifiad Sain. Rydym yn cynnal unig theatr ieuenctid Cymru ar gyfer pobl ifanc byddar a thrwm eu clyw, ac yn ddiweddar rydym wedi derbyn cytundeb cyllido aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, felly mae’n gyfnod cyffrous iawn i gymryd rhan yn ein gwaith!
Mae’r rôl wirfoddol hon fel ymddiriedolwr ar ein bwrdd.
Ymddiriedolwr yw unigolyn sy’n gofalu am waith elusen, gan sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau elusennol ac yn gweithredu mewn modd cyfreithiol a phroffesiynol ym mhob agwedd o’i gwaith.
Mae ymddiriedolwyr yn cyfarfod drwy gydol y flwyddyn i adolygu, cynllunio a thrafod gwaith yr elusen. Fel arfer, mae ein hymddiriedolwyr yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.
Rydym yn arbennig o awyddus i ddenu pobl sydd â:
· Profiad blaenorol o fod yn ymddiriedolwr neu’n gadeirydd / cyd-gadeirydd sefydliad elusennol
· Diddordeb neu ddealltwriaeth o’r sector Celfyddydau yng Nghymru
· Brwdfrydedd dros gynhwysiant ac amrywiaeth
· Y gallu i arwain ar faterion strategol a llywodraethu
· Profiad o weithio ym maes Adnoddau Dynol (AD)
· Profiad o godi arian
· Profiad byw o fod yn fyddar/anabl neu’n niwroamrywiol
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Louise RalphCyfeiriad:
Taking Flight Theatre, Market House, Market Road, Cardiff, CF51QE
Ffôn: 07593821172
Ffôn symudol: 07593821172
Gwefan: https://www.takingflighttheatre.org.uk/









Comments are closed.