Mae’r Girls Friendly Society yn chwilio am Wirfoddolwyr i weithio yn Grangetown, Caerdydd ar ddydd Mercher rhwng 5.15pm a 6.30pm.
Rydym yn grŵp i ferched 5-11 oed yn unig sy’n cefnogi ac ysbrydoli merched a menywod ifanc. Rydym yn creu mannau lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae gennym lawer o weithgareddau, sy’n cynnwys coginio, celf a chrefft, chwaraeon a gemau y gall y merched ymuno â nhw a chael hwyl bob wythnos.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â gweithgareddau gyda brwdfrydedd a hwyl. Mae hwn yn brofiad gwirfoddol a all helpu gyda chyfleoedd gwaith i weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Dewch i fod yn rhan o dîm gwych gyda chefnogaeth.
Rhaid cael gwiriad gan y GDG a geirdaon cyn dechrau’r gwirfoddoli.
Cysylltwch â Mel – 07484917530 neu e-bostiwch mel@gfs.org.uk am sgwrs anffurfiol









Comments are closed.