| Gwirfoddolwr Gweithgareddau Cymunedol
Helpu i ddod â Chymunedau Caerdydd at ei gilydd Ydych chi’n mwynhau cwrdd â phobl, rhannu syniadau a helpu i greu mannau cymunedol croesawgar? Mae’r Tîm Gwirfoddoli Cymunedol yn datblygu cyfleoedd gwirfoddoli ar draws Hybiau, llyfrgelloedd a lleoliadau cymunedol Caerdydd. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau am ddim i drigolion lleol, gan gynnwys grwpiau cymdeithasol, sesiynau creadigol, gweithgareddau i’r teulu, digwyddiadau lles a gweithgareddau corfforol. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr cyfeillgar, dibynadwy a brwdfrydig i helpu i wneud y gweithgareddau hyn yn bosibl. Eich Cyfraniad
Mae staff yn dechrau llawer o’n grwpiau cyn i wirfoddolwyr gymryd yr awenau, gan ein galluogi i greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i gymunedau ledled Caerdydd. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond agwedd gadarnhaol, parodrwydd i gymryd rhan ac angerdd am wneud gwahaniaeth. Pam gwirfoddoli gyda ni?
Diddordeb? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Ymunwch â ni a helpu i greu gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd ledled Caerdydd. Efallai y bydd angen gwiriad GDG ar rai gweithgareddau, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â phlant neu oedolion agored i niwed. Os yw hyn yn berthnasol i rôl yr hoffech gymryd rhan ynddi, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn eich helpu drwy’r broses ymgeisio. |
|
|
Tags: Cymuned, Plant a theuluoedd, Pobl hŷn, Yn y gymuned









Comments are closed.