Mae’r dudalen hon wedi cael ei chreu i helpu grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a chymdogion da yn ystod a thu hwnt i argyfwng COVID 19. Byddwn yn parhau i ddiweddaru hyn wrth i fwy o adnoddau, hyfforddiant a chyngor ddod ar gael:
Cyngor Siopa i Wirfoddolwyr
Bydd adegau pan ofynnir i wirfoddolwyr neu gymdogion brynu eitemau hanfodol ar gyfer rhywun yn y gymuned. Er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd o gam-drin ariannol, neu gamddealltwriaeth, mae WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) wedi datblygu cyngor arfer gorau. Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi sefydlu crynodeb o’r cyngor hwn fel opsiwn hawdd ei ddefnyddio / canllaw cyflym.
Ymwybyddiaeth Diogelu
Mae Canllaw Hanfodion Diogelu Cyngor Caerdydd yn cynnwys gwybodaeth, cyngor a manylion cyswllt pwysig ar gyfer codi unrhyw bryderon a allai fod gennych am les plentyn, person ifanc neu oedolyn bregus.
Ymwybyddiaeth o Gam-drin Domestig
Mae GIG Cymru yn cynnal e-fodiwl 45 munud am ddim “Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol” i’ch helpu i weithredu’n ddiogel os gwelwch arwyddion neu os ydych yn amau unrhyw fath o gam-drin domestig o fewn aelwyd yr ydych yn ei chefnogi neu mewn cysylltiad â hi.
Cysylltiadau Partner
WCVA – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw’r corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae ganddynt dudalen sy’n benodol ar gyfer diweddariadau a chanllawiau yn ystod pandemig COVID-19, sy’n cynnwys cyngor i wirfoddolwyr, cyfleoedd ariannu, dolenni i weminarau ac opsiwn i gofrestru ar gyfer cylchlythyr rheolaidd.
Cymunedau Tempo –Mae Credydau Amser Tempo wedi addasu eu gweithrediadau i gefnogi cymunedau yn ystod argyfwng COVID 19. Erbyn hyn mae ganddynt gyfres o e-fodiwlau, gweminarau a syniadau gwych ar gyfer aros yn gysylltiedig yn eich cymuned.
C3SC – Cyngor Trydydd Sector Caerdydd yw’r CGS (Cyngor Gwirfoddol Sirol) sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac mae ganddo ddolenni i gyngor, cyfleoedd ariannu a chyfleoedd hyfforddi pellach.