Oes gennych chi gyflwr deubegwn? Oes gennych chi gyfrifoldebau gofalu am rywun â chyflwr deubegwn? Neu oes gan rywun yn eich teulu, neu rywun rydych chi’n gofalu amdano neu’n ei gefnogi, gyflwr deubegwn?
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i gyd-hwyluso ein Grŵp Cymorth Cyfoedion Deubegwn yng Nghaerdydd ar gyfer pobl sy’n byw gyda chyflwr deubegwn neu’r cyflwr cysylltiedig, cyclothymia, a’u teulu, ffrindiau a gofalwyr.
Mae ein Grŵp Cymorth Cyfoedion Deubegwn yng Nghaerdydd yn cael ei arwain gan gyd-hwyluswyr gwirfoddol sydd â phrofiad personol o gyflwr deubegwn naill ai fel rhywun sy’n byw gyda chyflwr deubegwn eu hunain (p’un a yw wedi cael diagnosis ai peidio) neu fel aelod o’r teulu, ffrind agos neu ofalwr rhywun sy’n byw gyda chyflwr deubegwn.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i gyd-hwyluso ein Grŵp Cymorth Cyfoedion Deubegwn yng Nghaerdydd. Yr ymrwymiad amser yw tua 2-4 awr y mis ac rydym yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus i’n holl wirfoddolwyr gwerthfawr.
 diddordeb? Anfonwch e-bost at Helen yn supportgroups@bipolaruk.org, neu ffoniwch 0333 323 3885 a gadewch neges a byddwn yn eich ffonio’n ôl.
Tags: Community Work









Comments are closed.