Marie Curie yw prif elusen diwedd oes y DU. Ni yw’r darparwr gofal diwedd oes mwyaf nad yw’n rhan o’r GIG yn y DU, yr unig ddarparwr ar draws pob un o’r 4 gwlad, sy’n darparu gofal hosbis a nyrsio cymunedol ledled y wlad, tra’n darparu gwybodaeth a chymorth ar bob agwedd ar farw, marwolaeth a phrofedigaeth.
Mae ein hymchwil flaenllaw yn gwthio ffiniau’r hyn rydyn ni’n ei wybod am ddiwedd oes da, ac mae ein hymgyrchoedd yn ymladd dros fyd lle mae pawb yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl wrth fyw gyda salwch y maen nhw’n debygol o farw ohono.
Mae’r gofal a’r cymorth rydyn ni’n eu darparu yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y bobl rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw a’u hanwyliaid, ond ar hyn o bryd dim ond tua 10% o bobl sy’n marw ar ddiwedd eu hoes rydyn ni’n eu cyrraedd. Ar hyn o bryd, nid yw un o bob pedwar o bobl yn y DU sydd â salwch angheuol yn cael y gofal na’r cymorth y maen nhw’n eu haeddu ar ddiwedd eu hoes.
Beth bynnag yw’r salwch, rydyn ni gyda chi hyd y diwedd
0800 090 2309
support@mariecurie.org.uk
Manylion cyswllt
Deborah HarveyCyfeiriad:
One Embassy Gardens,
8 Viaduct Gardens,
Llundain SW11 7BW
E-bost: Deborah.harvey@mariecurie.org.uk
Ffôn: 075151 33890
Ffôn symudol: 075151 33890
Gwefan: https://www.mariecurie.org.uk



Comments are closed.