RNID yw’r elusen fwyaf yn y DU sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda cholled clyw a thinitws.
Mae RNID yn cynnig gwasanaeth Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cymhorthion Clyw drwy ein Gwasanaethau RNID Lleol, mae angen mwy o wirfoddolwyr arnom i agor ein gwasanaethau galw heibio misol ledled Caerdydd a’r Fro:
Mae Gwirfoddolwyr Cynnal a Chadw Cymhorthion Clyw yn derbyn hyfforddiant llawn gan Dîm Awdioleg Caerdydd a’r Fro, dysgwch sut i newid batris, ail-diwbio a sefydlu cysylltiadau Bluetooth i gefnogi pobl â cholled clyw.
Mae Gwirfoddolwyr Cwrdd a Chyfarch yn cynorthwyo pobl gyda chofrestru, cefnogi pobl gydag ymholiadau a chynnig wyneb cyfeillgar pan fydd pobl yn cyrraedd ein gwasanaethau.
Mae rolau gwirfoddol eraill yn cynnwys, gweinyddu, darparu gwiriadau clyw am ddim a hyrwyddo ein gwasanaethau yn lleol.
Amynedd, empathi ac ymrwymiad i o leiaf un gwasanaeth galw heibio am 2 awr y mis.
Mae RNID mewn Cymunedau yn cynnig sgyrsiau cymunedol i grwpiau a sefydliadau sy’n cynnig gwybodaeth am golled clyw, awgrymiadau cyfathrebu, hyrwyddo’r gwasanaethau y mae RNID yn eu cynnig yn lleol ac yn genedlaethol a darparu gwiriadau clyw am ddim i fynychwyr y sesiynau hyn.
Gwirfoddolwyr Cymunedol RNID Os ydych chi’n hoffi siarad â phobl, yn teimlo’n hyderus yn rhoi cyflwyniad i grwpiau bach ac eisiau cefnogi RNID i godi ymwybyddiaeth o fyw gyda cholled clyw, mae’r rôl hon i chi, yn hyblyg, gyda hyfforddiant llawn ac rydym yn talu costau teithio gwirfoddolwyr.
Tags: Cymuned, Iechyd a lles
Manylion cyswllt
Joanne Hobson – Rheolwr Datblygu RNID Cymru a Gogledd LloegrCyfeiriad:
Rydym yn elusen ddigidol yn unig
E-bost: volunteering@rnid.org.uk
Ffôn: 08088080123
Gwefan: www.rnid.org.uk









Comments are closed.