Sefydlwyd Splott Community Volunteers wyth mlynedd yn ôl i helpu pobl o gymunedau difreintiedig sydd ar incwm isel neu bobl sy’n ddigartref i gael gafael ar fwyd, cwmnïaeth a chymorth.
Mae’r elusen yn darparu clwb brecwast i aelodau o’r gymuned bob bore Iau o’i chanolfan yng Nghanolfan STAR ar Heol y Sblot. Bob wythnos, mae tîm o 20+ o wirfoddolwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gasglu rhoddion bwyd o archfarchnadoedd lleol, coginio brecwast poeth a pharatoi bagiau bwyd hanfodol i’w dosbarthu i rhwng 40 ac 80 o bobl. Mae’r clwb brecwast nid yn unig yn bwydo pobl, mae’n cysylltu’r gymuned, yn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn rhoi pwrpas i bobl drwy gyfleoedd gwirfoddoli.
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Comments are closed.