Mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái yn elusen adfywio cymunedol. Mae’n ymwneud â phobl yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu cymuned ac i wella eu bywydau eu hunain, a bywydau ei gilydd.
Nod y gwasanaeth Ffrind Ffôn yw adeiladu cysylltiadau rhwng pobl sy’n byw yng nghymuned leol De-orllewin Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn canolbwyntio ar bobl sydd wedi’u hynysu mewn rhyw ffordd, er enghraifft am eu bod yn byw ar eu pen eu hunain, gyda chysylltiadau cymdeithasol cyfyngedig neu’n methu â mynd allan.
Sefydlwyd y prosiect i ddechrau gan Gweithredu yng Nghaerau a Threlái mewn ymateb i’r cyfnod clo cyntaf. Wrth i ni barhau i ddatblygu’r gwasanaeth, rydym wedi derbyn cyllid gan Deall Dementia Cymru i flaenoriaethu pobl â dementia a’u gofalwyr. Cynyddodd Covid 19 ynysigrwydd cymdeithasol i lawer ohonom wrth i ni wynebu cyfyngiadau o ran yr hyn y gallem ei wneud a phwy y gallem gyfarfod a chymdeithasu â nhw. I eraill, roedd cael ychydig neu ddim cyswllt â phobl eraill wedi dod yn ffordd arferol o fyw hyd yn oed cyn y pandemig.
Nod Ffrindiau Ffôn yw darparu sgwrs gyfeillgar, dros y ffôn o tua 15 i 30 munud bob wythnos. Ein nod yw paru’r rhai sy’n derbyn y gwasanaeth â gwirfoddolwyr sy’n rhannu eu diddordebau. Ond, bydd llawer o bobl yn mwynhau’r sgyrsiau achlysurol y gallem eu cael pan fyddwn ni allan, fel rhannu newyddion ac atgofion o’r ardal leol, yr hyn yr ydyn ni’n ei gael am swper a beth mae’r tywydd yn ei wneud!
Mae angen i wirfoddolwyr allu anfon a derbyn e-byst a chael mynediad i’r rhyngrwyd er mwyn cyflawni eu rôl.
Pryd: Gall gwirfoddolwyr ddewis cael eu paru ag un person neu fwy yn ôl eu hamgylchiadau a gofynnir iddynt pa ddiwrnodau ac amseroedd maen nhw ar gael. Disgwylir i alwadau gael eu gwneud yn ystod oriau swyddfa (o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.00am tan 5.00pm) er mwyn i’r tîm Ffrindiau Ffôn ddarparu unrhyw gymorth y gallai fod ei angen.
Hyfforddiant
Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ar y gwasanaeth Ffrind Ffôn i’w cefnogi i gyflawni eu rôl. Byddant hefyd yn derbyn Hyfforddiant Sefydlu Gwirfoddolwyr Gweithredu yng Nghaerau a Threlái naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Darperir cymorth parhaus yn ôl yr angen drwy alwadau gwirio rheolaidd a’r cyfle i gael cyfarfodydd rhithwir ac wyneb yn wyneb gyda gwirfoddolwyr FfF eraill.
Sgiliau Dymunol –
· Dull ffôn cyfeillgar · Y gallu i wrando’n astud yn ogystal â bod yn berson siaradus · Empathi · Agwedd anfeirniadol, parch at gredoau a barn pobl eraill · Dull cyfeillgar a digyffro · Gonest a dibynadwy · Dealltwriaeth dda o’r angen am gyfrinachedd ·
Cyfrifoldebau Gwirfoddolwyr:
Gwasanaeth ffôn yw Ffrindiau Ffôn ac ni ddylai gwirfoddolwyr awgrymu nac ymateb i unrhyw awgrym gan dderbynnydd i gyfarfod wyneb yn wyneb.
|
Tags: Cwmnïaeth a chymdeithasu
Manylion cyswllt
Helen BullCyfeiriad:
Gweithredu yng Nghaerau a Threlái – Dusty Forge 460 Heol Orllewinol y Bont-faen CF5 4BZ
E-bost: Volunteering@aceplace.org
Ffôn: 029 2000 3132
Ffôn symudol: 07736 958051
Gwefan: www.aceplace.org
Comments are closed.