Mae Caffi ‘ANCLE’ (Allied Health and Nursing Collaborative Leg Engagement) yn glinig wythnosol ar gyfer cleifion â wlserau coesau gwythiennol cronig. Yn ystod Caffi ANCLE, mae cleifion a’u gofalwyr yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad myfyrwyr rhwng derbyn triniaeth gan nyrsys cymunedol ac ardal o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae cleifion yn cael eu gwahodd i eistedd yn ôl, cael sgwrs a mwynhau diod gynnes mewn lleoliad hamddenol.
Rydyn ni’n chwilio am berson hoff o sgwrs sy’n gallu sbario cwpl o oriau yr wythnos i wirfoddoli yng Nghaffi ANCLE.
Tasgau Allweddol:
- Croesawu pobl sy’n dod a helpu i greu awyrgylch gyfeillgar, cynhwysol.
- Paratoi a gweini lluniaeth twym ac oer yn ddiogel a gyda hylendid da.
- Arwain sesiwn LIFT (Hyfforddiant Gweithredol Llai Heriol) sy’n addas ar gyfer sawl gallu.
- Annog cyfranogiad a chefnogi’r mynychwyr yn ystod y sesiwn.
- Cynorthwyo unigolion y gallai fod angen help arnyn nhw i symud o gwmpas neu ddod o hyd i seddi.
- Helpu o ran paratoi a thacluso gofod y caffi cyn ac ar ôl sesiynau.
- Dilyn yr holl weithdrefnau iechyd a diogelwch, diogelu a hylendid bwyd perthnasol.
Sgiliau a Rhinweddau Angenrheidiol:
- Bod yn gyfeillgar, yn hawdd mynd atoch ac yn barchus.
- Hyder wrth ymgysylltu ag unigolion a grwpiau.
- Yn barod i arwain neu ddysgu arwain sesiwn LIFT (bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu).
- Yn ddibynadwy ac yn gallu ymrwymo i amserlen reolaidd.
- Yn gyfforddus wrth gefnogi pobl ag anghenion amrywiol.
Bydd hyfforddiant a chymorth yn cael eu darparu.
- Hyfforddiant LIFT – Hyfforddiant Gweithredol Llai Heriol
- Hyfforddiant sefydlu a diogelu gwirfoddolwyr
- Diogelwch tân a chyfeiriadedd adeilad
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddementia
- Cymorth parhaus gan Fentor Gwirfoddoli Cymunedol
Buddion Gwirfoddoli
- Cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.
- Ennill profiad mewn hwyluso grŵp a lletygarwch.
- Cwrdd â phobl newydd a magu hyder.
- Bod yn rhan o dîm cefnogol a chyfeillgar.
Lleoliad: Yr Hwb Iechyd Clinigol Perthynol (HICP) ym Mhrifysgol Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Diwrnod ac Amser. Dydd Mercher 9.15am – 12.15pm
Cerys.Rees@cardiff.gov.uk
Tags: Community Work, Iechyd a lles









Comments are closed.