Rydym ar hyn o bryd yn y broses o sefydlu gwasanaeth Cymraeg er mwyn i siaradwyr Cymraeg rhugl allu trafod eu hachos yn eu hiaith ddewisol. O ganlyniad, rydym angen mwy o wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’n elusen ac ein helpu i gefnogi’r gymuned Gymraeg. Sylwch, mae ein gwasanaethau Cymraeg ar agor ar ddydd Iau a dydd Gwener yn unig.
Hysbyseb Rôl
Allwch chi helpu unigolion sy’n wynebu’r llys yn annibynnol?
Ydych chi’n wrandawyr da gyda’r gallu i gynnig cymorth hanfodol yn y Gymraeg? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy’n siarad Cymraeg I ymuno a’n tim a chynnig cymorth ymarferol ac emosiynol hanfodol i bobl sy’n mynd trwy’r system llysoedd sifil a theuluol heb gynrychiolaeth gyfreithiol.
Pwy Ydyn Ni?
Pob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn y DU yn wynebu’r llys ar eu pen eu hunain. Heb gymorth, mae’n rhaid i unigolion gynrychioli eu hunain wrth fynd trwy un o gyfnodau anoddaf eu bywyd, megis wynebu ysgariad, ceisio sicrhau gofal eu plant, neu wynebu cael eu troi allan o’u cartref. Mae gormod o bobl yn cael eu gadael mewn penbleth, wedi’u gorfodi i lywio system gyfreithiol gymhleth ar eu pennau eu hunain
Rydym yn sefyll ochr yn ochr â phobl sy’n teimlo nad oes ganddynt unman arall i droi. Rydym yn darparu gwasanaeth am ddim ledled Cymru a Lloegr, gan gynnig cymorth ac arweiniad cyn, yn ystod, ac ar ôl achos llys. Rydym yn sicrhau nad yw pobl sy’n wynebu’r llys ar eu pennau eu hunain, gan archwilio’r agweddau ymarferol ac yn eu paratoi i wynebu’r llys ag urddas a hyder.
Gall cymorth ein gwirfoddolwyr gael effaith uniongyrchol ar ganlyniad achos ein cleientiaid ac ar weddill eu bywydau. Wedi’i deilwra i bob unigolyn, mae ein gwirfoddolwyr yn darparu cymorth eang, megis cynnig gwybodaeth cyfreithiol, esbonio beth fyddai’n digwydd yn y llys, helpu pobl i lenwi ffurflenni cyfreithiol cymhleth, a’u cefnogi wrth iddynt gynllunio’r hyn yr hoffent ei ddweud wrth y barnwr.
Credwn fod gan bawb yr hawl i wrandawiad teg, ac rydym yn credu y dylai’r unigolion a’r teuluoedd sy’n chwilio am gymorth yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando a’u deall. Ni ddylai unrhyw un wynebu’r llys ar ei ben ei hun.
Ein Gwirfoddolwyr
Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, gofalgar sydd ag sgiliau cryf o ran datrys problemau, i ymuno â ni i sicrhau na fydd unrhyw un yn wynebu’r llys ar eu pen eu hunain. Dan gefnogaeth un o’n Rheolwyr Gwasanaeth, byddwch yn ymuno â thîm o wirfoddolwyr yng Nghaerdydd, gan helpu pobl trwy:
• Esbonio sut mae’r broses llys yn gweithio
• Helpu cleientiaid i lenwi ffurflenni llys, paratoi datganiadau a threfnu dogfennau llys
• Helpu cleientiaid i gynllunio’r hyn yr hoffent ei ddweud yn y llys
• Mynychu gwrandawiadau llys gwyneb yn wyneb/o bell
Mae profiad cyfreithiol yn werthfawr, ond nid yw’n hanfodol. Rydym yn chwilio am bobl sydd â’r empathi, y menter, a’r ymrwymiad i ddod o hyd i ddatrysiad. Nid ydym yn cynnig cyngor cyfreithiol, ac ble bynnag y gallwn, byddwn yn cyfeirio cleientiaid at sefydliad perthnasol arall.
Sut byddwn yn eich cefnogi
Rydym yn elusen sy’n cael ei pharchu, ac mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol yn ein gwaith. Byddwch yn gweithio gyda’r Rheolwr Gwasanaeth a fydd yn rhoi hyfforddiant i chi. Byddwch chi byth yn gweithio ar eich pen eich hun, byddwch bob amser yn derbyn cefnogaeth gan dîm o gydweithwyr. Rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu gwirfoddoli am o leiaf 2 ddiwrnod y mis, am gyfnod cychwynnol o 8-12 mis. Rydym yn agored i fod yn hyblyg. Sylwch, dim ond ar ddydd Iau a dydd Gwener rydym yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Disgrifiad Rôl
Rydym yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli gwyneb yn wyneb neu o bell (dros y ffôn/fideo).
Mae’r rhestr isod yn cynnwys rhai enghreifftiau o’r math o dasgau y byddwch yn eu cyflawni fel gwirfoddolwr:
• Cwrdd â chleientiaid wyneb yn wyneb neu dros y ffôn a gwrando arnynt yn esbonio eu hachos.
• Egluro gweithdrefnau’r llys a helpu cleientiaid i gynllunio eu camau nesaf.
• Helpu cleientiaid i ddeall papurau llys, llenwi ffurflenni (ar-lein ac/neu ar bapur), ysgrifennu datganiadau a chwblhau gwaith papur arall sy’n gysylltiedig a’u hachos.
• Helpu cleientiaid gyda chynllunio’r hyn maen nhw am ddweud yn y llys, e.e. helpu i strwythuro eu meddyliau, ysgrifennu nodiadau, ayb.
• Mynychu gwrandawiadau gyda chleientiaid a’u helpu i ddeall beth sydd rhaid iddyn nhw wneud nesaf.
• Cyfrannu at brosiectau sydd â’r nod o wella’r ffordd rydyn ni’n helpu ein cleientiaid.
• Codi arian ar gyfer yr elusen.
Priodweddau/Profiadau
• Person cydweithredol
• Y gallu I gyfathrebu yn y gymraeg
• Profiad o weithio gyda’r cyhoedd
• Sgiliau gwrando a chyfathrebu rhagorol
• Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol
• Sgiliau TG, ac/neu’r barodrwydd i ddysgu ein systemau
• Profiad o ddelio â sefyllfaoedd heriol
Nodweddion Dymunedig:-
• Profiad sylfaenol o’r llys teulu a llys sifil
• Profiad o weithio neu wirfoddoli yn y trydydd sector
Tags: Eiriolaeth
Manylion cyswllt
Elli BaintonCyfeiriad:
Support Through Court Cardiff Civil and Family Justice Centre 2 Park Street, CF10 1ET
E-bost: e.bainton@supportthroughcourt.org
Ffôn: 02922770348
Gwefan: https://supportthroughcourt.org/locations/cardiff/



Comments are closed.