Mae “Meet Up Monday” yw prynhawn hwyliog a cynhwysol sy’n mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol ac iechyd meddwl gwael trwy greu lle cyfeillgar, hamddenol a chroesawgar i bawb.
Diwrnod ac Amser: Bob Dydd Llun 1pm i 3pm (angen gwirfoddolwyr 12.45 – 3.15)
Lleoliad: Llyfrgell Llanrumney, Rhodfa Countisbury, Caerdydd CF3 5NQ
Person cyswllt: Kostiantyn.Verman@cardiff.gov.uk (07812 506426)
Beth sydd angen i’r gwirfoddolwr ei wneud:
- Bod â diddordeb mewn pobl a’u hanesion
- Gosod y gofod a’i glirio wedyn
- Meddwl am weithgareddau ar gyfer y grŵp a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Bydd y gwirfoddolwr delfrydol yn chwarae rhan weithredol yn cynllunio, trefnu ac arwain gweithgareddau ar gyfer y grŵp. Mae angen i wirfoddolwyr hefyd fod yn hapus i ymuno â gweithgareddau grŵp i helpu i greu awyrgylch hwyliog.
- Cyfathrebu â’u mentor a staff yr hyb.
Gofynion arbennig:
- Rhaid i chi fod 18 neu’n hŷn
- Gallu gwirfoddoli ar amserlen ragweladwy (mae gwirfoddoli’n wythnosol yn ddelfrydol ond mae’n bwysicach ein bod yn gallu cynllunio o gwmpas eich argaeledd)
- Byddwn yn gofyn am 2 eirda cyn i chi ddechrau gwirfoddoli gyda ni (eto, siaradwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon)
- Croesewir pob iaith ond cynhelir y grŵp yn Saesneg felly mae angen i’ch Saesneg llafar eich galluogi i egluro gweithgareddau i’r grŵp ac ateb ymholiadau a cheisiadau ad hoc.
- Ni allwn gefnogi pobl i adleoli ar gyfer y swydd wirfoddoli hon.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, yr hyfforddiant a ddarperir neu unrhyw anghenion hygyrchedd a allai fod gennych, cysylltwch â Gemma.Coleman2@caerdydd.gov.uk neu Kostiantyn.Verman@cardiff.gov.uk (07812 506426) am sgwrs.
Manylion cyswllt
Kostiantyn VermanE-bost: Kostiantyn.Verman@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07812506426
Comments are closed.