Ar gyfer y rôl newydd gyffrous hon fel Gwirfoddolwr Hyb Cymunedol gyda Chyngor Caerdydd, rydym yn chwilio am bobl sy’n frwd dros ddarllen, llyfrau a chefnogi eu cymunedau lleol trwy gefnogi staff Hybiau a Llyfrgelloedd i redeg y gwasanaeth llyfrgell yn ddidrafferth. Mae ein Hybiau yn ganolog i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, felly rydym yn chwilio am bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gweithredol i’w cymunedau a helpu i greu amgylchedd diogel i bobl.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
- Gwirfoddolwyr cynnes a chyfeillgar sy’n hapus i helpu staff ac aelodau o’r gymuned leol.
- Gwirfoddolwyr sydd â sgiliau cyfathrebu da sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Aelod da o dîm, sy’n hyblyg ac yn addasu’n hawdd i newid.
- Bydd dibynadwyedd yn allweddol i’r rôl hon, gan y bydd ein gwirfoddolwyr yn cefnogi rhedeg gweithgareddau’r Ganolfan yn ddidrafferth.
- Gwirfoddolwyr sy’n mwynhau dysgu sgiliau newydd ac sydd bob amser yn chwilio am ffyrdd y gallwn wella’r hyn a wnawn.
- Gwirfoddolwyr sy’n gallu cynrychioli Cyngor Caerdydd yn gadarnhaol drwy ddilyn polisïau a gweithdrefnau perthnasol.
- Y gallu i ymrwymo i o leiaf un shifft 4.5 awr yr wythnos.
Tags: Yn y gymuned
Comments are closed.