Teitl Rôl Gwirfoddolwr Gwybodaeth Gymunedol
Lleoliad: Gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd a’r Fro
Oriau wythnosol a awgrymwyd: Ymrwymiad amser a awgrymir yw 2 – 3 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, mae’n bosibl trafod dyddiau ac oriau gyda’r sefydliad.
Oedran isaf:18+
Rydym yn undeb credyd arobryn, sy’n gweithredu ers 30 mlynedd. Rydym yn gwmni cydweithredol gwasanaeth ariannol nid-er-elw sy’n bodoli er budd ein haelodau. Rydym yn galluogi aelodau i gynilo’n ddiogel a benthyg ar gyfraddau fforddiadwy. Rydym yn edrych ar geisiadau ar sail unigol. Mae’n ffordd wych i bobl gefnogi eu cymuned leol. Gyda’n gilydd rydym wedi arbed miloedd mewn log i bobl leol o’i gymharu â benthycwyr y stryd fawr. Rydym ar genhadaeth i annog pob person lleol i ymuno â ni.
Diben
Ein nod yw cynyddu presenoldeb Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro (UCCaF) yn yr ardal leol; gan ein helpu i helpu mwy o bobl. Fel Gwirfoddolwr Gwybodaeth Gymunedol; byddwch yn helpu i hyrwyddo gwaith UCCaF, gan roi gwybod i’r cyhoedd pwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud a beth sydd ar gael iddyn nhw.
Byddwch yn helpu i:
• Ddarparu gwybodaeth a llenyddiaeth am UCCaF i’r cyhoedd yn gyffredinol
• Cefnogi’r cyhoedd i gwblhau unrhyw ffurflenni cais
• Darparu gwybodaeth am y cynhyrchion sydd ar gael, benthyciadau ac ati.
Sgiliau Gofynnol:
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol
• Ymagwedd hyderus, cyfeillgar
• Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod o dîm
• Yn awyddus i rannu syniadau, dysgu a chyfrannu at ddatblygiad y sefydliad
Beth gallwch ei ddisgwyl
• Hyfforddiant Priodol.
• Cefnogaeth a goruchwyliaeth reoliadd
• Cael yswiriant
• Ad-daliadau am gostau teithio yn unol â’r polisi treuliau
• Gwiriad datgelu a gwahardd safonol a gynhelir cyn i chi ddechrau
• Sgiliau cyflogadwyedd gwell
• Derbyn geirda gan sefydliad ariannol a nid-er-elw uchel ei barch (ar ôl 6 mis o wirfoddoli rheolaidd)
Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
• Cynrychioli UCCaF mewn modd proffesiynol
• Cyflawni eich rôl wirfoddoli hyd eithaf eich gallu
• Glynu wrth bolisïau a gweithdrefnau UCCaF
• Darparu dau geirda fel rhan o’r broses ymgeisio
Tags: Gweinyddu a gwaith swyddfa
Manylion cyswllt
volunteer.cardiff.gov.ukE-bost: volunteer@cardiff.gov.uk
Comments are closed.