Mae gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Caerdydd yn cefnogi plant 17 oed ac iau sy’n gofalu am riant, brawd neu chwaer neu fam-gu/tad-cu sydd â salwch neu anabledd neu’n cael trafferth gyda dibyniaeth ar sylweddau neu alcohol.
Mae’r gwasanaeth Gofalwyr Ifanc yn cefnogi’r bobl ifanc hyn drwy ddarparu gwasanaethau a chymorth. Mae hyn yn cynnwys cymorth lles emosiynol, gweithgareddau cymunedol, sesiwn galw heibio’r ysgol a sgiliau bywyd. Cynigir y ddarpariaeth ar ffurf sesiynau grŵp mawr, grŵp bach a 1:1.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano:
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Caerdydd yn chwilio am nifer fach o Wirfoddolwyr sy’n angerddol am weithio gyda phlant ac sydd â rhywfaint o brofiad a gwybodaeth yn y maes hwn.
Y rôl wirfoddol fydd cynnig cefnogaeth a chymorth mewn gweithgareddau a sesiynau grŵp ac adeiladu perthynas gadarnhaol gyda’r Gofalwyr Ifanc ac weithiau eu teuluoedd.
Nod y rôl wirfoddoli yw cefnogi Gofalwyr Ifanc i gyflawni canlyniadau sy’n ystyrlon iddynt a helpu i wella eu hyder, eu hunan-barch a’u sgiliau cymdeithasol. Bydd y Gwirfoddolwr yn helpu i ysgogi gofalwyr ifanc i ymuno â gweithgareddau a sesiynau grŵp a gwneud ffrindiau newydd.
Gwirfoddolwr Gofalwyr Ifanc
Prif gyswllt y gwirfoddolwr Rachael Sim
Lleoliad rôl y gwirfoddolwr Gwahanol glybiau ieuenctid a lleoliad cymunedol/cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Gofynion Arbennig
• Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
• 2 eirda. 1 geirda Academaidd neu Gyflogwr ac 1 geirda cymeriad.
• Rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant.
• Datgelu unrhyw gysylltiad â’r gwasanaethau plant gan eu teulu eu hunain.
Amlinelliad o’r rôl (gan gynnwys dyletswyddau a chyfrifoldebau)
• Paratoi a gweini byrbrydau
• Rhedeg gweithgaredd fel gêm neu sesiwn grefft (o fewn sesiwn grŵp mwy)
• Sgwrsio a gwrando ar blant.
• Hebrwng gyda thrafnidiaeth ac aelod arall o staff.
Yr hyfforddiant y byddwn ni’n ei ddarparu
Hyfforddiant diogelu lefel 1.
Bwyd a Hylendid Lefel 1.
Cymorth Cyntaf Lefel 1.
Beth gallwn ni ei wneud i chi
Profiad o weithio â phlant a theuluoedd sy’n agored i niwed.
Gallwn ddarparu geirda ar ôl i chi gwblhau 10 sesiwn.
Datganiad hygyrchedd
Mae’r holl leoliadau rydyn ni’n eu defnyddio ar hyn o bryd yn hygyrch ac yn addas i gadeiriau olwyn. Nid oes lleoedd parcio ar y safle yn unrhyw un o’r clybiau ieuenctid presennol ac mae staff yn parcio yn y strydoedd preswyl o amgylch yr adeiladau.
Tags: Eiriolaeth, Plant a theuluoedd
Manylion cyswllt
Rachel SimE-bost: volunteer@cardiff.gov.uk









Comments are closed.