Mae Cyfeillion Llyfrgell Rhiwbeina yn grŵp cymunedol lleol a sefydlwyd sawl blwyddyn yn ôl i gefnogi’r gwaith o barhau â gwasanaethau llyfrgell ym mhentref Rhiwbeina, Gogledd Caerdydd.
Mae grŵp o bobl leol yn cefnogi’r llyfrgell drwy drefnu a rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau: grwpiau, sgyrsiau a digwyddiadau i oedolion. Yn fisol mae gennym grŵp Hanes Lleol, grŵp gemau bwrdd a llyfrgell Jig-so, yn ogystal â rhaglen Cwis a Chwpan a siaradwyr misol.
Mae Cyfeillion Llyfrgell Rhiwbeina’n annog pobl leol, dros 18 oed, i ddod yn aelodau a gwirfoddoli i fod yn rhan o gynllunio, sefydlu a chynnal digwyddiadau. Byddai croeso mawr i unrhyw un sydd â syniadau am weithgareddau y gellid eu trefnu, neu â sgil benodol yr hoffent eu rhannu fel cynorthwywyr.
Gallwch wirfoddoli i gefnogi’r gweithgareddau hyn – cymaint neu gyn lleied ag y dymunwch, i gyd-fynd â’ch bywydau a’ch cyfrifoldebau prysur.
Rydyn ni’n chwilio am 2-3 pherson i gymryd drosodd ein digwyddiadau siaradwyr misol llwyddiannus o fis Medi 2025. Mae hyn yn cynnwys dod o hyd i siaradwyr, hyrwyddo’r digwyddiadau a rheoli digwyddiadau ar y noson.
Cysylltwch â ni os hoffech chi gymryd rhan a’n helpu i barhau â’r digwyddiadau hyn.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Lynne SchofieldCyfeiriad:
Cyfeillion Llyfrgell Rhiwbeina, Hwb Rhiwbeina, Lôn Isa, Rhiwbeina CF14 6EH
E-bost: Lynne.Schofield99@gmail.com


Comments are closed.