Mae’r Tîm Cymorth Digidol yn cynnig cymorth, cyngor ac arweiniad digidol un wrth un i drigolion Caerdydd. Mae ein prif werthoedd yn alinio â mynd i’r afael ag allgáu digidol a chymdeithasol a’n nod yw gweithio tuag at Gaerdydd 100% ddigidol. Rydym yn darparu cyngor, hyfforddiant a chyfleoedd uwchsgilio yn ogystal â mynediad at ddyfeisiau digidol a rhaglenni llesiant.
Rydym yn chwilio am unigolion â galluoedd digidol er mwyn helpu i ddarparu cyngor ac arweiniad digidol un wrth un yn unol â’n cynnig ‘Cymhorthfa Ddigidol’.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar sgiliau digidol da i allu cefnogi cleientiaid, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu da.
Mae’r cyfle hwn yn unol â’r cynllun Hyrwyddwyr Digidol cenedlaethol, darperir hyfforddiant Hyrwyddwr Digidol achrededig llawn cyn i’r lleoliad ddechrau.
Mae’r cyfleoedd ar gael yn y lleoliadau canlynol.
Hyb Llanisien Dydd Mawrth 10am-1pm
Hwb Grangetown Dydd Iau 2pm-5pm
Hyb y Llyfrgell Ganolog Dydd Gwener 10am-1pm a 2pm-5pm
Tags: Addysg a hyfforddiant, Yn y gymuned
Manylion cyswllt
Katie RappellE-bost: Katiejayne.rappell@cardiff.gov.uk
Ffôn: 07583010395
Gwefan: Digital Support - Adult Learning Cardiff
Comments are closed.