Does dim lle i gam-drin plant yn ystod plentyndod. Mae’r pŵer i’w atal yn nwylo cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Bob blwyddyn ar ddydd Gwener 6 Mehefin, Diwrnod Plentyndod yw diwrnod cenedlaethol nodedig yr NSPCC i godi arian a gweithredu, sy’n dod â chymunedau ynghyd ac yn rhoi ffordd i bawb helpu i gadw plant yn ddiogel. Ydych chi gyda ni?
Bydd casgliadau Diwrnod Plentyndod yn cael eu cynnal ledled y DU o fis Mai i fis Mehefin. Bydd gennym nifer o gasgliadau ar draws Cymru y bydd angen gwirfoddolwyr ar eu cyfer.
Cynhelir casgliad Caerdydd ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin
Fyddwch chi’n chwarae eich rhan yn cadw plant yn ddiogel drwy wirfoddoli nawr? Cofrestrwch ar gyfer eich casgliad DP lleol.
Ewch i’r strydoedd gyda ni ar draws y Deyrnas Unedig ym mis Mai a Mehefin a’n helpu ni i gasglu rhoddion ar gyfer yr NSPCC.
Bydd ymuno â ni ar y strydoedd yn llawer o hwyl, cewch gwrdd â llawer o bobl newydd a chewch eich cefnogi o’r eiliad y byddwch yn cofrestru. Ymunwch â ni mewn tri cham syml:
1. Cofrestrwch ar-lein – https://www.nspcc.org.uk/support-us/charity-fundraising/childhood-day/volunteer/
2. Nodwch eich cod post a dewiswch amser a lleoliad sy’n gyfleus i chi
3. Ewch i’r strydoedd!
Gyda’n gilydd gallwn ddiogelu plant ac atal cam-drin.
Tags: Cymuned, Plant a theuluoedd
Manylion cyswllt
Jassmin NijjerE-bost: CHDVolunteering@NSPCC.org.uk
Gwefan: https://www.nspcc.org.uk/support-us/charity-fundraising/childhood-day/volunteer/
Comments are closed.