Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig a dibynadwy er mwyn helpu i gefnogi ein siopau manwerthu. Mae ein siopau’n codi arian hanfodol i’n galluogi i gefnogi’r rhai yn y gymuned leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar eu bywydau a’u teuluoedd.
Ar hyn o bryd mae gennym ystod o gyfleoedd ar gael yn ein siopau yn Rhodfa Colchester, Trelái, Llanisien, Rhiwbeina a’r Eglwys Newydd.
Mae gwirfoddolwyr manwerthu yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o dasgau megis didoli rhoddion, prisio a darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Drwy wirfoddoli yn ein siopau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth anferth ac yn dod yn rhan o dîm cyfeillgar a chroesawgar. Byddwch hefyd yn rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned.
Tags: Manwerthu, Retail









Comments are closed.