Mae Tenantiaid Ynghyd yn gweithio mewn cymunedau tai cyngor i gasglu adborth a chynnal digwyddiadau ar gyfer Tenantiaid a Lesddeiliaid Cyngor Caerdydd.
Mae gennym gyfleoedd ar gael i wirfoddolwyr helpu i roi adborth ar ein gwasanaethau a helpu mewn digwyddiadau cymunedol.
Mae’r rôl hon ar gael i denantiaid a lesddeiliaid Cyngor Caerdydd yn unig.
Mae’r tasgau o ddydd i ddydd yn cynnwys helpu i sefydlu a chyfarch, sgwrsio â thenantiaid mewn digwyddiadau. Gwirfoddoli i fynychu a helpu i sefydlu grwpiau ffocws mewn hybiau i roi adborth am wasanaethau’r Cyngor yn ogystal â’r opsiwn i fod yn llais yn eich cymuned i roi gwybod i bobl am newidiadau mewn polisi.
Mae hyd yn oed gwobrau am fynychu ein grwpiau ffocws i ddweud wrthym sut y gallwn wella fel talebau siopa a bagiau anrhegion.
Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut y gallwch gymryd rhan yn y gwaith o lunio dyfodol eich cymunedau lleol a gwneud Dinas Caerdydd yn lle i bawb ei fwynhau.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Jack SlowinskiCyfeiriad:
Cyfranogiad Tenantiaid, Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Ais, Caerdydd, CF10 1FL
E-bost: Tenantiaid.Ynghyd@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 02920871777
Ffôn symudol: 07811291291
Gwefan: www.tenantiaidcaerdydd.co.uk
Comments are closed.