Does dim lle i gam-drin plant yn ystod plentyndod. Mae’r pŵer i’w atal yn nwylo cymunedau ledled y Deyrnas Unedig.
Bob blwyddyn ar ddydd Gwener 7 Mehefin, Diwrnod Plentyndod yw diwrnod cenedlaethol nodedig yr NSPCC i godi arian a gweithredu, sy’n dod â chymunedau ynghyd ac yn rhoi ffordd i bawb helpu i gadw plant yn ddiogel. Ydych chi gyda ni?
Bydd casgliadau Diwrnod Plentyndod yn cael eu cynnal ledled y wlad o 25 Mai – 16 Mehefin. Bydd gennym nifer o gasgliadau ar draws Cymru y bydd angen gwirfoddolwyr ar eu cyfer.
Cynhelir casgliad Caerdydd ar ddydd Sadwrn 8 Mehefin
Fyddwch chi’n chwarae eich rhan yn cadw plant yn ddiogel drwy wirfoddoli nawr? Cofrestrwch ar gyfer eich casgliad DP lleol.
Ewch i’r strydoedd gyda ni ar draws y Deyrnas Unedig ym mis Mai a Mehefin a’n helpu ni i gasglu rhoddion ar gyfer yr NSPCC.
Bydd ymuno â ni ar y strydoedd yn llawer o hwyl, cewch gwrdd â llawer o bobl newydd a chewch eich cefnogi o’r eiliad y byddwch yn cofrestru. Ymunwch â ni mewn tri cham syml:
1. Cofrestrwch ar-lein – https://register.nspccevents.org.uk/ps/event/ChildhoodDaySearch
2. Nodwch eich cod post a dewiswch amser a lleoliad sy’n gyfleus i chi
3. Ewch i’r strydoedd!
Gyda’n gilydd gallwn ddiogelu plant ac atal cam-drin.
Tags: Cymuned
Manylion cyswllt
Jassmin NijjerE-bost: CHDVolunteering@NSPCC.org.uk
Comments are closed.