Diben y rôl:
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda digwyddiadau yn Amgueddfa Caerdydd. Bydd gwirfoddolwyr yn cynorthwyo’r tîm Blaen Tŷ i sefydlu a hwyluso’r digwyddiadau, gan ein helpu i groesawu ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cael amser pleserus, hwyliog a diogel. Bydd y gwirfoddolwr yn cynorthwyo i hwyluso y digwyddiadau a restrir isod.
Ynglŷn â’r amgueddfa:
Mae Amgueddfa Stori Caerdydd yn yr Hen Lyfrgell ar yr Ais ac yn adrodd hanes prifddinas Cymru drwy lygaid ei phobl, gan ddod â gorffennol Caerdydd yn fyw. Mae’n dathlu, dehongli a diogelu hanes Caerdydd, ar gyfer y trigolion ac ymwelwyr sy’n dod â’r ddinas.
Crynodeb o’r rôl:
- Cynorthwyo’r Tîm Blaen Tŷ i gynnal digwyddiadau, gan sicrhau gofal cwsmeriaid rhagorol a bod yn wyneb cyfeillgar i staff ac ymwelwyr.
Digwyddiadau
- Dinky Dragons – Ein digwyddiad misol ar gyfer plant 0-3 oed a’u hoedolion, a gynhelir bob yn ail Ddydd Gwener o’r mis. Cefnogi cyflwyno amser rhigwm a stori a sicrhau bod ein hymwelwyr yn cael hwyl! Cynorthwyo gyda pharatoi a chlirio.
- Celf a Chrefft – Dydd Mercher yn ystod gwyliau’r ysgol, i blant oed cynradd a’u hoedolion. Cefnogi’r tîm i gyflwyno’r digwyddiad crefft. Cynorthwyo gyda pharatoi a chlirio.
- Trin Gwrthrych, ar gyfer ymweliadau cynradd ac yn ystod digwyddiadau. Cynorthwyo i ddarparu sesiynau trin gwrthrychau. Esbonio a dangos i ymwelwyr sut i drin a gofalu am wrthrychau yn iawn.
- Digwyddiadau eraill pan gânt eu cynnal.
Rhinweddau, sgiliau a phrofiad perthnasol:
- Agwedd frwdfrydig
- Sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Parodrwydd i siarad â’r cyhoedd
- Gwir ddiddordeb ym mhopeth sy’n ymwneud â Chaerdydd
- Parodrwydd i weithio yn rhan o dîm bychan
- Parodrwydd i ddysgu mwy am gasgliadau’r amgueddfa
- Diddordeb yn y gwaith a wneir gan amgueddfeydd
- Parodrwydd a gallu i weithio’n annibynnol
- Teithio yn ôl y gofyn
Pawb sy’n gwirfoddoli gydag Amgueddfa Caerdydd:
- Gweithio o fewn canllawiau’r Polisi Gwirfoddolwyr a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol cysylltiedig (e.e. Iechyd a Diogelwch, Cydraddoldeb, Mynediad, Amddiffyn Plant ac ati)
- Sicrhau Iechyd a diogelwch ymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr trwy ddilyn gweithdrefnau dynodedig.
- Gweithredu fel cynrychiolydd a chennad dros Amgueddfa Caerdydd.
- Bydd yr holl waith a wneir ac a gynhyrchir gan wirfoddolwyr ar gyfer ac ar ran Amgueddfa Caerdydd a Chyngor Caerdydd yn aros dan hawlfraint yr Amgueddfa.
Rhoddir hyfforddiant llawn.
A oes diddordeb gennych? Darganfyddwch fwy drwy gysylltu â’n Goruchwylydd Blaen Tŷ: menna.bradford@caerdydd.gov.uk
Manylion cyswllt
Cyfeiriad:Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd.
CF10 1BH
E-bost: menna.bradford@cardiff.gov.uk
Comments are closed.