Cyngor Caerdydd

Cefnogaeth a Datblygiad

Mae rhai sefydliadau allweddol yng Nghaerdydd sy’n bwysig iawn wrth alluogi gwirfoddolwyr ledled y ddinas.

Mae’r sefydliadau hyn yn ariannu ac yn hyfforddi pobl yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth arbenigol.

 

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (CTSC) yn gwella gallu pobl o bob rhan o gymdeithas i wirfoddoli, gan ategu ymdrechion i sicrhau nad yw rhwystrau diangen yn atal pobl rhag gwirfoddoli. Cynigia hyn drwy:

  • Hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli ar http://www.volunteering-wales.net
  • Cyngor wyneb yn wyneb ar wirfoddoli mewn pwyntiau hygyrch yng Nghaerdydd
  • Helpu pobl i fanteisio ar leoliadau gwirfoddoli yng Nghanolfan Wirfoddoli CTSC
  • Hyrwyddo gwirfoddoli drwy wefan Gwirfoddoli Cymru, e-fwletinau a’r cyfryngau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli.
  • Rhoi mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfleoedd gwirfoddoli drwy sesiynau galw heibio, sesiynau allgymorth cymunedol a chyfrannu at ddigwyddiadau cyhoeddus wedi’u targedu.

Rhagor o wybodaeth am wasanaethau CTSC

 

Mae Hyb Chwaraeon Caerdydd yn adnodd ar-lein sy’n ategu nod Chwaraeon Caerdydd o greu cyfleoedd i bawb drwy chwaraeon drwy ei gwneud mor hawdd â phosibl cymryd rhan – p’un ai drwy wirfoddoli, dod o hyd i glwb chwaraeon lleol, hyfforddi eraill neu ddod o hyd i gyrsiau neu gyfleoedd hyfforddi. Yn yr un modd, mae’r Hyb Chwaraeon yn galluogi sefydliadau a hoffai gynnig cyfleoedd gwirfoddoli chwaraeon i hyrwyddo eu cyfleoedd i weithlu gwirfoddol medrus a phrofiadol sy’n cynyddu’n gyflym. Mae Chwaraeon Caerdydd yn canolbwyntio ac yn arbenigo yn:

  • Rhoi cyfleoedd i helpu eraill
  • Cyfrannu at chwaraeon yng Nghaerdydd
  • Cynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd
  • Gwella hyder pobl
  • Defnyddio a datblygu profiad yn y diwydiant
  • Cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd.

Mae Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (GMC) yn credu mewn rhoi cyfle i gymuned Caerdydd roi ychydig i ennill llawer. Mae’n elusen a arweinir gan fyfyrwyr sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ers y 1970au.

Mae ganddi dros 20 o brojectau sy’n galluogi gwirfoddolwyr (a all fod yn aelodau o’r gymuned neu’n fyfyrwyr) i gyfrannu at eu cymuned leol drwy weithio gyda’r sawl sydd ag anableddau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl, sy’n hŷn neu’n ddigartref.

Bydd rôl wirfoddoli â’r elusen yn rhoi’r canlynol i wirfoddolwyr:

  • Cyfle i helpu eraill
  • Cyfle i gwrdd â phobl newydd
  • Gwella hyder
  • Cael hyfforddiant am ddim
  • Tystysgrif diwedd blwyddyn
  • Cael geirda os ydynt yn chwilio am waith
  • Ennill profiad ychwanegol i’w roi ar eu CV
  • Ennill sgiliau cyflogadwyedd
  • Dysgu sgiliau newydd

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn gweithio gyda’r amgylchedd ac yn helpu i hyrwyddo Caerdydd werddach. Mae gwirfoddolwyr yn gweithio mewn nifer o feysydd gan gynnwys ysbytai, ysgolion, ar ffermydd, gyda’r heddlu a’r llywodraeth leol gyda 50,000 o oriau o wirfoddoli’n cael eu cyflawni’r llynedd. Mae GMC yn ymfalchïo  yn yr effaith a gaiff ar Gaerdydd.

Mae Spice yn rheoli’r rhaglen Credydau Amser yng Nghyngor Caerdydd a sectorau eraill ledled Cymru. Rydym yn datblygu systemau Credydau Amser sy’n gwerthfawrogi amser pawb waeth pwy ydyn nhw. Mae ein rhaglenni’n ymgorffori partneriaethau cyffrous rhwng unigolion a’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

Mae Credydau Amser yn gwerthfawrogi amser pawb a’u cyfraniadau unigol. Am bob awr o amser a roddwch i’ch cymuned neu wasanaethau, cewch un Credyd Amser. Gallwch dreulio’r amser hwn ar weithgareddau yn ein rhwydwaith.

 

Mae Cadwch Caerdydd yn Daclus yn ymgyrch yng Nghaerdydd i lanhau ein strydoedd a’n cymdogaethau ac mae’n galw ar ddinasyddion Caerdydd i wneud cyfraniad sy’n gwneud gwahaniaeth. Gan ganolbwyntio ar ddefnyddio talent pobl, glanhau cymdogaethau, peidio â goddef sbwriela a chodi ymwybyddiaeth o ailgylchu. Gall helpu gydag:

  • Ymuno â grŵp cymunedol lleol, dechrau grŵp newydd neu bigo sbwriel eich hun

Os hoffech gyfrannu at bigo sbwriel yn eich ardal, cysylltwch ag un o’r grwpiau cymuned neu cofrestrwch fel hyrwyddwr sbwriel yn http://www.cadwchcaerdyddyndaclus.com/grwpiau-cymunedol/

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau ewch i’r adran digwyddiadau

Os hoffech ddechrau’ch grŵp eich hun, cysylltwch â Cadwch Gymru’n Daclus a all gynnig cyngor i chi ar wneud hyn. Gallwch gysylltu â swyddog Caerdydd yn:  https://www.keepwalestidy.cymru/forms/cysylltwch

 

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd