Cyngor Caerdydd

Apel bwyd Cyngor Caerdydd

Fel y gwyddoch, mae argyfwng COVID-19 yn cael effaith sylweddol ledled Caerdydd gyda llawer o’n busnesau a’n cymunedau wedi dioddef.

Un her benodol yw’r galw cynyddol am gyflenwadau bwyd sylfaenol, yn benodol i gefnogi ein pobl fwyaf bregus, naill ai y rheiny sydd angen hunanynysu neu’r rheiny sy’n dioddef o effaith economaidd yr argyfwng.

Mae’r Cyngor wedi creu gwasanaeth yn ddiweddar i ymateb i’r angen cynyddol hwn, yn cael gafael ar gyflenwadau bwyd a hanfodion eraill ac yn eu dosbarthu yn gyson yn ystod yr adeg heriol hon.

Mae cynnydd sylweddol eisoes wedi bod yn y galw am ein gwasanaeth bwyd, ac mae dros 900 o bobl wedi gwirfoddoli i ddosbarthu bwyd ledled y ddinas

Apel bwyd Cyngor Caerdydd

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd