Cyngor Caerdydd

Cronfa Argyfwng Dewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd

Os ydych chi’n cael trafferth talu am fwyd, tanwydd neu atgyweiriadau, ewch i wefan Cyngor Ariannol Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Frys Ddewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd.

O ganlyniad i bandemig COVID-19, mae angen mwy o wirfoddolwyr a chymorth i bobl sy’n cael anawsterau ariannol yn ein cymunedau.

Mae’r Gronfa Frys Ddewisol Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd wedi’i lansio i gefnogi’r rhai mwyaf anghenus.

Mae’r gronfa ar gael i unigolion a theuluoedd sy’n profi caledi difrifol, pan nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael.

Rydym wedi creu’r gronfa frys i helpu gyda threuliau fel:

  • talu am hanfodion fel nwy a thrydan pan na all aelwydydd wneud hynny,
  • atgyweiriadau hanfodol i bopty neu beiriant golchi, a
  • dodrefn hanfodol neu offer i fynd i’r afael ag amddifadedd digidol.

Os hoffech gefnogi teuluoedd sy’n profi caledi yng Nghaerdydd, rhowch i’r gronfa hon.

Rhoi cyfraniad

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd