Cyngor Caerdydd

Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd

Mae ‘Gyda’n Gilydd Dros Gaerdydd’ yn defnyddio ewyllys da pobl ar draws ein dinas i helpu eraill ar yr adegau heriol hyn.

Bydd porth gwirfoddoli Cyngor Caerdydd yn galluogi sefydliadau cymunedol i hysbysebu eu cyfleoedd oll mewn 1 lle. Yna gall dinasyddion sydd am helpu edrych ar y cyfleoedd hyn gan wybod bod y sefydliadau hyn wedi’u fetio.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi helpu:

• Help gyda siopa?
• Help gyda cherdded cŵn?
• Helpu pobl sy’n sâl neu’n hunanynysu?
• Help gyda chasglu sbwriel a chynlluniau cymunedol eraill

Os ydych chi’n hunanynysu neu ddim yn gallu cynnig help corfforol mae modd i chi wirfoddoli o hyd!

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd