Cyngor Caerdydd

Gwirfoddoli gyda Gwasanaethau Cefnogi

Boomerang Cardiff – www.boomerangcardiff.org.uk/

Mae Boomerang Cardiff yn elusen newydd ei sefydlu sydd â’r bwriad o helpu a chefnogi teuluoedd sy’n wynebu anffawd. Yn y bôn mae Boomerang yn dîm o unigolion sy’n cydweithio er lles pawb ac sydd â’r nod o fynd i’r afael â thlodi. Mae pob person sy’n gweithio i Boomerang naill ai wedi bod yn ddigartref neu wedi profi straen tlodi eu hunain neu’n adnabod person sydd wedi. Mae ein nodau’n syml, rhoi cymorth i bobl sydd ei angen a hynny’n gyflym, gan roi dillad a bwyd i bobl ddigartref a dodrefn a nwyddau’r cartref i’r rhai hynny sy’n byw mewn tlodi’. Mae Boomerang Cardiff wrth law i helpu unrhyw sydd ag angen dilys, heb ragfarn.

Os oes diddordeb gennych mewn Gwirfoddoli gyda Boomerang Cardiff cysylltwch â nhw trwy ffonio 02920 497724 neu e-bostio info@boomerangcardiff.org.uk

datganiad cenhadaeth Boomerang (Gan fod darparwr allanol wedi cynhyrchu’r ddogfen hon, nid yw hi ar gael yn y Gymraeg)

Huggard – www.huggard.org.uk/

Mae Huggard yn elusen yng Nghaerdydd sy’n mynd i’r afael â digartrefedd a cheisio goresgyn problemau a rhwystrau sy’n gorfodi unigolion i gysgu ar ein strydoedd.
Ymhlith y gwasanaethau rydym yn eu darparu y mae canolfan ddydd sydd ar agor 365 diwrnod y flwyddyn, hostel â 22 gwely gyda mannau argyfwng ychwanegol (8 pod a man ar y llawr i 20+ o gleientiaid), 14 tŷ a rennir gyda chymorth i denantiaid sy’n rhoi lle i 53 o gleientiaid.
Mewn tywydd ofnadwy rydym hefyd yn agor ein canolfan ddydd gyda’r nos i 20+ o bobl ddigartref ac agored i niwed, i roi lloches i bobl y byddai angen iddynt fel arall gysgu ar y stryd.

Os oes diddordeb gennych mewn Gwirfoddoli gyda Huggard cysylltwch â nhw trwy ffonio
02920 642000 neu e-bostiwch post@huggard.org.uk

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd