Cyngor Caerdydd

Canllawiau i Wirfoddolwyr

Opsiynau gwirfoddoli 

Gall pobl sy’n dymuno gwirfoddoli naill ai ymgysylltu â rhwydweithiau cyd-gymorth a gwirfoddoli cymunedol anffurfiol a/neu gytuno i wirfoddoli’n fwy ffurfiol mewn rôl gyda sefydliad.

Cyd-gymorth/cylchoedd cymunedol/gwirfoddoli anffurfiol 

Mae llawer o gymdogion eisoes wedi ymrwymo i gynorthwyo a chefnogi ei gilydd mewn ardal fach iawn. Yn rhan fwyaf yr achosion, mae hyn yn golygu bod y bobl dan sylw eisoes yn adnabod ei gilydd i ryw raddau. Ni ddylai unrhyw un gael ei roi dan bwysau i gymryd rhan.

Mae cardiau post neu daflenni trwy flychau llythyrau wedi’u defnyddio i ailgyflwyno cymdogion ac awgrymu sut y gallent helpu a chefnogi ei gilydd: o gadw mewn cysylltiad yn unig drwy alwadau ffôn, i adael y neges wrth ddrws y tŷ ac ati, gan gadw pellter cymdeithasol yr un pryd.

Ceir manylion ar gysylltiadau cyfryngau cymdeithasol fel WhatsApp a grwpiau lleol ar Facebook a.y.b.

 

Ymunwch â mudiad gwirfoddolwyr presennol

Drwy eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) neu Gwirfoddoli Cymru, gallwch gofrestru i ymgymryd â rôl wirfoddoli benodol gyda sefydliad lleol.

Dylai gwirfoddolwyr ddisgwyl y gofynnir iddynt ymrwymo i god ymddygiad sy’n ofynnol gan y sefydliad.

Gellir holi pob gwirfoddolwr am eu collfarnau sydd heb eu disbyddu (nid yw’r cyfnod adsefydlu ddim wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond fel mater o arfer da yn unig. Mae hyn yr un fath â gwiriad sylfaenol y GDG ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.

Efallai y bydd angen gwiriadau GDG manwl ar rai rolau gwirfoddoli eraill Gwiriadau GDG ond gan fod y rhain ar gyfer rolau sy’n cynnwys cyswllt â’r bobl sydd fwyaf agored i niwed o ran materion diogelu confensiynol, bydd llai o gyfleoedd o’r fath. Dylai rolau sydd angen gwiriadau manylach gan y GDG gael eu nodi’n glir ar y wybodaeth.

Gwybodaeth i unigolion sydd eisiau gwirfoddoli

Gwirfoddoli – a allwn i? Ddylwn i? A sut?

Iechyd yn gyntaf

Gall unrhyw un wirfoddoli, ond o dan y canllawiau presennol ar gyfer ymateb i’r coronafeirws, ni ddylai’r bobl sydd yn wynebu’r perygl mwyaf (y rhai sy’n feichiog, rhai sydd dros 70 a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol) ymgymryd â swyddi gwirfoddoli a allai godi eu risg o gael eu heintio, neu o’i drosglwyddo i eraill a allai fod mewn perygl.

Os oes unrhyw un o dan 18 oed yn dymuno gwirfoddoli, gweler y canllawiau pellach yma: https://thirdsectorsupport.wales/cy/gwirfoddoli/

Meddyliwch am: swyddi di-gontract y gellir eu gwneud drwy fynediad o bell gan ddefnyddio ffonau, e-byst, facetime ac ati. Mae’r swyddi hyn lawn mor bwysig â llawer o rai eraill i atal unigrwydd a datgysylltiad.

Gall pobl a ddylai fod yn hunan-ynysu oherwydd haint posibl, neu sydd mewn perygl o gael eu heintio, hefyd ymgymryd â’r swyddi gwirfoddol hyn o bellter, os ydynt yn ddigon da, ond rhaid iddynt fel arall beidio â thorri eu hamodau ynysu i wirfoddoli.

 

Canllawiau Ymbellhau Cymdeithasol

Rhaid i bob gwirfoddolwr ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol i bawb yng Nghymru ac amddiffyn pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed 

Mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym, felly dylai pobl sy’n gwirfoddoli a threfnu gwirfoddolwyr wirio’r canllaw hwn yn ddyddiol a hefyd ddarllen y diweddariadau dyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ganddynt.

Gwybodaeth ddiogelu ar gyfer grwpiau a sefydliadau sy’n recriwtio ac yn defnyddio gwirfoddolwyr 

Rhaid i ymatebion gan gymunedau i COVID-19 gynnwys rhoi systemau a phrosesau ar waith i ddiogelu buddiolwyr a gwirfoddolwyr rhag cael eu cam-drin a’u niweidio.

Dyma’r 10 awgrym gorau i’ch rhoi ar ben y ffordd.

Gweler ein canllawiau manwl ar y wefan am fwy o wybodaeth am yr holl bwyntiau hyn:

  1. Dylai arweinwyr grwpiau roi eu manylion cyswllt i’r buddiolwyr (y bobl y byddwch yn eu helpu) a disgrifiad o’r gwasanaethau y maent yn bwriadu eu cynnig
  2. Dylai arweinwyr grwpiau greu disgrifiadau swydd ar gyfer gwirfoddolwyr sy’n nodi unrhyw angen am wiriadau’r GDG (neu e-bostio safeguarding@wcva.cymru gyda disgrifiad swydd) DS: Gellir holi pob gwirfoddolwr am eu collfarnau sydd heb eu disbyddu (nad yw’r cyfnod adsefydlu ar eu cyfer wedi dod i ben eto (gweler y wybodaeth yma: Datgloi)) ond fel mater o arfer dda yn unig. Mae hyn yr un fath â gwiriad sylfaenol y GDG ond gallai fod yn fater o lenwi ffurflen ar-lein syml.
  3. Rhaid i arweinwyr grwpiau ymgyfarwyddo â’r mathau o weithgarwch a ddiffinnir fel ‘gweithgarwch a reoleiddir’ y byddai angen iddynt gael gwiriad manwl gan y GDG gyda rhestr wahardd yn ôl y gyfraith.
  4. Dylai’r gwasanaeth greu system glir i fuddiolwyr dynnu sylw gwirfoddolwyr at eu hangen am gymorth: dylid rhoi gwybod i wirfoddolwyr beth i’w wneud nesaf – fel arfer ffonio’r gwasanaethau brys.
  5. Dylai arweinwyr grwpiau sicrhau bod gan wirfoddolwyr fynediad at gydlynydd a enwir y gellir cysylltu ag ef neu hi yn hawdd.
  6. Rhaid i wirfoddolwyr wybod y dylent gysylltu â’r cydlynydd os oes ganddynt unrhyw bryderon diogelu a dylai fod gan y cydlynydd restr o gysylltiadau i wneud atgyfeiriadau, e.e. yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol.
  7. Dylai gwirfoddolwyr ddilyn holl arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch COVID-19 a dylid glynu at fesurau diogelwch.
  8. Rhaid rheoli trafodion ariannol yn ofalus a dylid osgoi cyfnewid arian parod ar bob cyfrif.
  9. Dylai gwirfoddolwyr ddefnyddio dull adnabod clir wrth gyfathrebu â buddiolwyr.
  10. Lle y bo’n bosibl, defnyddiwch y gweithlu gwirfoddolwyr presennol, e.e. gyrwyr a chyfeillion cymunedol.

 

Rôl y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) lleol 

Beth mae’r CGS (Cyngor Gwirfoddol Sirol) yn ei wneud? 

Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol ym mhob sir sy’n cefnogi sefydliadau gwirfoddol, yn hyrwyddo gwirfoddoli ac yn rhoi gwybodaeth i’r cyhoedd.

Gall CGSau helpu sefydliadau i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr a gallant hefyd helpu unigolion i ddod o hyd i gyfleoedd addas.

Mae CGSau yn helpu’r rhai sy’n awyddus i wirfoddoli drwy roi cymorth a gwybodaeth uniongyrchol, (naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn neu drwy e-bost) a thrwy reoli’r gronfa ddata genedlaethol o gyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer eu hardal   https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY.

 

Gwefan Gwirfoddoli Cymru 

Gellir chwilio gwefan https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/index.htm?lang=CY i ddod o hyd i gyfleoedd fesul lleoliad, fesul categori neu drwy ddefnyddio gair penodol. Gall unrhyw un chwilio, ond bydd angen i chi gofrestru fel gwirfoddolwr ar y wefan er mwyn mynegi diddordeb mewn cyfle neu i gael manylion cyswllt.  

Os defnyddiwch y ddolen isod, yna sgrolio i lawr, byddwch yn gweld cyfleoedd yn gysylltiedig â COVID 19, a allai fod yn ddefnyddiol. https://volunteering-wales.net/vk/volunteers/search.htm?searchString+=&categor%ef%bf%bdau+=+3042&lang=CY

Mae’r CGS hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth i sefydliadau a grwpiau, gan gynnwys cyngor ar lywodraethu, cyllido, diogelu a materion cyfreithiol a chynnwys gwirfoddolwyr.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol yma.

© Gwirfoddoli Caerdydd - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd