Rydym yn rheoli rhwydwaith dosbarthu sy’n seiliedig ar wirfoddolwyr sy’n cynnig prydau iachus wedi eu seilio ar blanhigion i unrhyw un sy’n profi tlodi bwyd neu sy’n ei chael hi’n anodd diwallu eu hanghenion maeth.
Fel gyrrwr gwirfoddol Bwyd am Oes, byddwch yn dosbarthu prydau bwyd i bobl mewn angen ar draws y ddinas. Mae hyn yn rhoi profiad uniongyrchol i chi o bwysigrwydd y gwasanaeth Bwyd am Oes, gan y byddwch yn cwrdd â llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth hyfryd yn rheolaidd, ac yn deall cymaint y maent yn gwerthfawrogi eich ymdrechion.
Mae eich llwybr wedi’i gynllunio’n ofalus a bydd gennych yr holl fanylion sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich taith, sydd fel arfer yn cymryd rhwng 2 a 3 awr. Mae’r cyfle gwirfoddoli hwn yn addas ar gyfer dau berson (un gyrru, un yn danfon), neu un person yn cyfuno’r ddwy dasg.
Mae’r cyfle ar gael i unrhyw un sydd â thrwydded yrru ddilys yn y Deyrnas Gyfunol neu â beic ar gael i ymuno â’n tîm dosbarthu gwych! Mae Bwyd Am Oes yn hapus i dalu’r gost am tanwydd sydd ei angen ar gyfer llwybrau cludo, wedi gyfrifo fesul milltir, ar gyfraddau safonol’ |
Tags: Bwyd, Danfon bwyd
Manylion cyswllt
Vamsi-vilasi dasaCyfeiriad:
Tŷ Krishna Cymru, 4 Siambr y Doc, Stryd Bute, Caerdydd CF10 5AG
E-bost: foodforlife@tykrishna.cymru
Ffôn: 07756299786
Gwefan: Bwyd am Oes – Tŷ Krishna Cymru (tykrishna.cymru)




Comments are closed.