A oes gennych gefndir mewn iechyd a ffitrwydd?
A hoffech chi greu fideos ymarfer corff hwyliog i’w mwynhau gan y bobl rydym yn eu cefnogi?
Mae iechyd a lles yn bwysicach nag erioed o’r blaen ac mae llawer o’r bobl rydym yn eu cefnogi’n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gadw’n heini ac yn iach!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig i greu fideos byr i’r bobl rydym yn eu cefnogi gyda gweithgareddau y gallant gymryd rhan ynddynt trwy ein Sianel YouTube
Gall y fideos gynnwys unrhyw beth – o ioga i aerobeg gadair – a fydd yn apelio at ystod eang o alluoedd.
Bydd y rôl hon yn eich galluogi i arddangos eich creadigrwydd a datblygu eich sgiliau cyfathrebu a TG, yn ogystal â chyfrannu tuag at ffyrdd iach o fyw.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd:
Mae Dimensions yn cynnig cefnogaeth i ryw 3,500 o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ledled y Deyrnas Unedig. Rydym yn eu helpu i fyw yn fwy annibynnol ac i fod yn rhan o’u cymuned leol.
Sut mae Dimensions yn delio â Covid-19 Rydym yn cadarnhau ein bod wedi cydymffurfio ag arweiniad y llywodraeth o ran rheoli risg COVID-19.
Hoffem dawelu meddyliau ymgeiswyr a dechreuwyr bod Dimensions yn rhoi pob cam posibl ar waith i leihau risgiau i wirfoddolwyr a chydweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dilynwch y ddolen i gael manylion llawn y rôl: http://bttr.im/5jrp0 |
Tags: Health and Wellbeing
Manylion cyswllt
Becky EvansCyfeiriad:
Dimensions Cymru
Pwll Mawr Court, Uned 22, Tredelerch, Caerdydd CF3 1TH
E-bost: volunteering@dimensions-uk.org
Ffôn: 03003039162
Gwefan: www.dimensions-uk.org/volunteering






Comments are closed.