Mae Cyngor Caerdydd drwy’r “Rhaglen Cyfeillion mewn Angen” yn darparu galwadau cyfeillio/lles a all helpu unigolion sy’n hunan-warchod ac aelodau agored i niwed ein cymuned.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i’n helpu i wneud galwadau lles i bobl dros 50 oed sy’n hunan-warchod oherwydd eu bod yn y perygl mwyaf o ddal Coronafeirws. Nodau’r galwadau yw gwirio a ydyn nhw’n gallu cyflawni eu gofynion cymdeithasol neu eu hanghenion iechyd corfforol, gwella eu lles meddyliol, eu cyfeirio at ddarpariaeth ychwanegol os oes angen, sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar bob cymorth a darpariaeth sydd eu hangen arnyn nhw megis parseli bwyd neu gasglu presgripsiynau neu feddyginiaeth ar eu rhan, neu ymgysylltu’n gymdeithasol – drwy gael sgwrs – os ydyn nhw’n teimlo’n unig neu’n ynysig. Bydd gan y gwirfoddolwyr sgript i’w dilyn a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau iddyn nhw ynghylch yr hyn i’w ddweud. I fod yn gymwys, mae’n RHAID i chi fodloni pob un o’r canlynol: • Rhaid bod gennych ffôn symudol gyda munudau diderfyn i’w defnyddio • Rhaid bod gennych gyfrifiadur neu lechen cartref a chyfeiriad e-bost i gael mynediad at enwau a rhifau’r bobl i’w galw. Hyd yn oed os ydych yn hunanynysu bydd cyfleoedd i chi helpu. Os hoffech wybod mwy am y cyfle hwn neu gofrestru’n wirfoddolwr gyda ni, ffoniwch neu e-bostiwch. |
Tags: Cyfle, cyfle cartref, Henoed, Rhith gyfeillio
Manylion cyswllt
Tîm Mentoriaid GwirfoddolCyfeiriad:
2il Lawr, Hyb y Llyfrgell Ganolog, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1FL
E-bost: gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071




Comments are closed.