Mae Book of You yn ap hawdd ei ddefnyddio sy’n defnyddio geiriau, lluniau, cerddoriaeth a ffilm. Mae’n dod â theuluoedd, ffrindiau a gofalwyr ynghyd i rannu eiliadau bywyd mewn ffordd syml gan wneud adrodd straeon yn hawdd, yn hwyl ac yn fuddiol.
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr dros Cymru i helpu’r teuluoedd o rhai sy’n byw gyda dementia i greu llyfrau stori bywyd trwy ein ap syml i’w ddefnyddio. Mae’r holl hyfforddiant a gwirfoddoli trwy Zoom sy’n golygu y gallwch ei wneud o gysur eich cartref eich hun!
Gall gwirfoddoli fod yn hyblyg wrth i chi a’r cleient ddewis amser sydd orau i’r ddau ohonoch.
Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant Ffrindiau Dementia trwy Zoom, a fydd yn eich helpu i gael gwell dealltwriaeth o bobl sy’n byw gyda dementia.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, dim ond cyfeillgarwch a llawer o frwdfrydedd.
Tags: Cyfle, cyfle cartref, Henoed, Older People, Rhith gyfeillio
Manylion cyswllt
Danielle JonesE-bost: daniellebookofyou@gmail.com
Ffôn: 01492 555381
Ffôn symudol: 07376 851812






Comments are closed.