‘Helo, mae Dimensions yn fy nghefnogi i ac rwy’n chwilio am Wirfoddolwr fydd yn dod i fy nghartref i ymweld â mi unwaith yr wythnos am sgwrs a phaned neu ddod i weithgaredd gyda mi. Mae fy ffydd Sikh yn bwysig iawn i mi felly byddwn yn falch o gael gwirfoddolwr benywaidd sydd hefyd yn rhan o’r gymuned Sikh, sy’n gallu siarad Punjabi. Rwy’n mwynhau gwneud llawer o bethau gwahanol gan gynnwys mynd ar deithiau yn ystod y diwrnod, mynd i ffermydd, paentio a thynnu lluniau, bowlio a garddio. ‘Dw i hefyd yn mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd’
Mae Dimensions yn cefnogi oddeutu 3,500 o bobl eraill ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ledled y DU. Rydym yn eu helpu nhw i fyw’n fwy annibynnol a chael mynediad at eu cymunedau lleol. Rydym yn chwilio am gyfeillion all ymrwymo i ychydig o oriau o leiaf unwaith yr wythnos i dreulio ychydig o amser gyda dynes yr ydym yn ei chefnogi. Dyma gyfle perffaith i roi ychydig oriau’n gwneud rhywbeth yr ydych yn ei fwynhau, a gwneud ffrindiau ar yr un pryd. Does dim angen profiad penodol, fodd bynnag byddai profiad gydag oedolion ag anableddau’n ddymunol. Byddem yn gofyn i’r gwirfoddolwr ymrwymo i fynychu’r rôl yn rheolaidd. Mae trefn a sefydlogrwydd yn hanfodol o ran cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu ac awstistiaeth.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n:
|
Tags: Cyfeillio
Manylion cyswllt
Sam GarrickCyfeiriad:
Parc Busnes Pwll Mawr, Wentloog Rd, Tredelerch, Caerdydd CF3 1TH
E-bost: samantha.garrick@dimensions-uk.org
Ffôn symudol: 07393012595
Gwefan: https://app.betterimpact.com/PublicOrganization/4902beb0-1aef-4998-9af6-80da087b41c5/1

Comments are closed.