Ydych chi’n dwlu ar gemau? Ydych chi’n mwynhau chwarae gyda phobl eraill?
Mae ‘Jamile’ wrth ei fodd gyda gemau a thechnoleg ac mae’n chwilio am gyd-chwaraewyr i chwarae gemau gwahanol gyda nhw a thrafod materion yn ymwneud â thechnoleg!
Fel cyfaill gwirfoddol, byddech yn cael effaith gadarnhaol drwy helpu ‘Jamile’ i ryngweithio â mwy o bobl a gwneud ffrindiau newydd, tra’n rhannu ei angerdd a’i ddiddordebau gydag eraill. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys:
Mae Dimensions yn cynnig cefnogaeth i ryw 3,500 o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ledled y Deyrnas Gyfunol. Rydym yn eu helpu i fyw yn fwy annibynnol ac i fod yn rhan o’u cymuned leol.
Sut mae Dimensions yn delio gyda Covid-19 Rydym yn cadarnhau ein bod wedi cydymffurfio ag arweiniad y llywodraeth o ran rheoli risg COVID-19.
Hoffem sicrhau ymgeiswyr a dechreuwyr newydd bod Dimensions yn rhoi pob cam posibl ar waith i leihau risgiau i wirfoddolwyr a chydweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dilynwch y ddolen i gael manylion llawn y rôl: http://bttr.im/pqa87 |
Tags: Befriending, Rhith gyfeillio
Manylion cyswllt
Becky EvansCyfeiriad:
Dimensions Cymru
Pwll Mawr Court, Uned 22, Tredelerch, Caerdydd, CF3 1TH
E-bost: volunteering@dimensions-uk.org
Ffôn: 03003039162
Gwefan: www.dimensions-uk.org/volunteering






Comments are closed.