Ymrwymiad amser
Hyd at 4 awr yr wythnos
Mae’r Clwb Bwyd yn cael ei gynnal am 3 awr yr wythnos yn dosbarthu bwyd i deuluoedd (gan gynnwys amser i baratoi a glanhau ar y diwedd)
Rydyn ni hefyd angen gwirfoddolwyr i helpu gyda derbyn y cludiad bwyd (naill ai diwrnod cyn y clwb neu bore’r clwb)
Sut gallet ti ein helpu ni?
Fel gwirfoddolwr clwb bwyd byddet ti’n ran o dîm cyfeillgar sy’n darparu mynediad fforddiadwy at fwyd i deuloedd lleol, ac arbed bwyd rhag safleoedd tirlenwi.
Beth mae’n cynnwys?
- Derbyn cludiant a sicrhau fod bwyd yn cael ei storio’n ddiogel.
- Cwblhau gwiriadau dyddiol i gadw’r bwyd yn ddiogel.
- Dosbarthu bwyd i deuluoedd sy’n aelodau.
- Cyflwyno teuluoedd i gyfleoedd a gweithgareddau drwy eu pwyntio nhw tuag at gwasanaethau lleol.
- Cyfrannu at awyrgylch anfarnol, diogel a chefnogi teuluoedd yn emosiynol lle bo angen.
- Bydd yn rhaid i wirfoddolwyr ennill dealltwriaeth (addas i’w rôl) am, a chydymffurfio â, phob polisi a gweithdrefn Family Action perthnasol.
Byddai’r rôl hwn yn siwtio pobl sydd: (Sgiliau a nodweddion angenrheidiol)
- Yn gyfeillgar, anfarnol ac empathetig
- Gyda dealltwriaeth o weithio gyda teuluoedd bregus
- Gyda diddordeb mewn neu phrofiad o weithio i daclo ansicrwydd bwyd neu dlodi
- Yn hyderus yn siarad i amrywiaeth eang o bobl ac yn wrandäwr gweithredol
- Yn gallu gweithio mewn amgylchedd cyfrinachol
- Yn gweithio’n effeithiol mewn tîm
- Yn drefnus a rhagweithiol
Tags: Community
Manylion cyswllt
Carys Mair JonesE-bost: Cardifffoodclubs@family-action.org.uk
Comments are closed.