Ydych chi wedi gwirfoddoli yn eich cymuned, ar gyfer sefydliad neu unrhyw Grŵp Cymorth COVID-19 yn ystod argyfwng COVID-19? Hoffech chi rannu eich profiad i’n helpu i adeiladu cymuned wirfoddoli gref a chael cyfle i ennill cerdyn rhodd £50?
Os felly, cwblhewch yr arolwg byr hwn â 10 cwestiwn. Bydden ni’n gwerthfawrogi eich amser a’ch adborth. Cewch eich cynnwys mewn cystadleuaeth raffl i ennill cerdyn rhodd. Mae’r arolwg hwn ar gyfer pobl sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19 yn ninas Caerdydd.
Cyflwyniad:
Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd. Bu mwy o waith gwirfoddoli yn ystod argyfwng COVID-19 gyda Chyngor Caerdydd yn ymateb i dros 1,000 o ymholiadau gwirfoddoli. Fodd bynnag, rydym yn falch iawn o ymateb y cymunedau i’r argyfwng hwn yng Nghaerdydd a Chymru yn gyffredinol. Felly, nid ydym am golli’r brwdfrydedd hwnnw ac rydym am sicrhau bod y rhai sydd wedi rhoi o’u hamser i’w cymuned yn ystod argyfwng COVID-19 yn cael y cyfleoedd i wneud yr un peth eto ac i roi adborth i ni. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu seilwaith gwirfoddoli cryf yng Nghaerdydd i gefnogi pobl i wirfoddoli/helpu a all ymateb yn gyflym i argyfyngau yn y dyfodol.
Diogelu Data – Mae Cyngor Caerdydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ar ddiogelu data. Caiff y wybodaeth a roddwch ei rhannu dim ond gyda’ch caniatâd a chaiff unrhyw ddata personol ei storio’n ddiogel yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd
https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=161462141153
Comments are closed.